Race Horses

Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Race Horses, adnabyddwyd fel Radio Luxembourg gynt. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grŵp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl waith hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dylunwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.

Gadawodd y drymiwr Ben Herrick y band yn hwyr yn 2008, a fe gymerwyd ei le gan Gwion Llewelyn.

Популярные треки

3