Edward H. Dafis

Roedd Edward H. Dafis yn fand Cymraeg oedd yn bodoli o 1973 hyd at 1980.

Rhwng Ionawr 1972 ac Awst 1973, ysgrifennodd Hefin Elis golofn yn Y Faner o dan y ffugenw 'Edward H. Dafis', a phan aeth ati i greu band arloesol Gymraeg, rhoddwyd yr enw hwn iddo. Prif bwrpas y band oedd symud cerddoriaeth Gymraeg oddi wrth y synau gwerinaidd a swynol (oedd yn gyffredin iawn yng ngherddoriaeth Gymraeg y cyfnod) tuag at agwedd mwy swnllyd a chynhyrfus.

Популярные треки